Amrywiaeth Crefydd a Chred: Canllawiau a phecyn adnoddau ar gyfer ysgolion cynradd yng Nghymru a Lloegr

Translated title of the contribution: Diversity of Religion and Belief: : A guidance and resource pack for primary schools in England and Wales

Peter Hemming, Elena Hailwood, Connor Stokes

Research output: Book/ReportProject report

Abstract

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae amrywiaeth crefydd a chred wedi cael ei chydnabod yn gynyddol mewn trafodaethau ar bolisi cymdeithasol ac addysgol, fel cangen o wahaniaeth cymdeithasol ar wahân i ethnigrwydd a diwylliant, sy’n haeddu sylw yn ei rhinwedd ei hun. Fodd bynnag, nid yw ysgolion cynradd yng Nghymru a
Lloegr bob amser wedi cael mynediad hawdd at ganllawiau clir ynglŷn â sut i ymdrin â'r maes hwn. Yr oedd yn ymddangos i ni fod angen dod â fframweithiau polisi, ymchwil academaidd ac arfer da perthnasol ynghyd mewn un ddogfen, a fyddai’n cynnig gwybodaeth am adnoddau defnyddiol yn y maes hefyd. Dyma yw nod Amrywiaeth Crefydd a Chred: Canllawiau a phecyn adnoddau ar gyfer ysgolion cynradd yng Nghymru a Lloegr.

Mae’r canllawiau a’r pecyn adnoddau yn rhan o brosiect cyfnewid gwybodaeth, effaith ac ymgysylltu ehangach sydd â’r nod o adeiladu ar ymchwil Dr Peter Hemming, sydd wedi archwilio rôl addysg grefyddol mewn ysgolion cynradd mewn cyd-destunau gwledig a threfol (Hemming 2015, Hemming 2018). Hyd yma, mae prosiect wedi cynnwys seminar a gweithdy ym Mhrifysgol Caerdydd ym mis Mawrth 2017 ar gyfer ymchwilwyr, gweithwyr addysgu proffesiynol a sefydliadau addysgol.

Denodd y digwyddiad dros 30 o fynychwyr, a gymerodd ran mewn cyflwyniadau a thrafodaethau am ymchwil ac arfer da ym maes amrywiaeth crefydd a chred, ac roedd yn cyd-fynd ag ymgynghoriad ehangach drwy’r e-bost ag arbenigwyr a chyrff addysgol perthnasol. Roedd y gweithgareddau hyn yn bwysig ar gyfer llywio’r canllawiau ar arfer da, sy'n llunio rhan sylweddol o'r ddogfen hon.

Mae'r pecyn yn dechrau gydag adran ar y cyd-destunau polisi a fframweithiau amrywiol sy'n llywio ein ffocws ar amrywiaeth crefydd a chred mewn ysgolion cynradd. Nesaf, mae'n cynnwys adrannau sylweddol gyda chanllawiau i ysgolion, yn manteisio ar ymchwil ac arfer da, ar sut i ymdrin â’r maes hwn ym mywyd yr ysgol o ddydd i ddydd. Yn dilyn hyn, rydym wedi cynnwys adran yn rhestru amrywiaeth o adnoddau a all, gobeithio, fod yn ddefnyddiol wrth archwilio’r maes hwn ymhellach. Yn olaf, mae'r pecyn yn cynnwys adrannau sy'n rhestru cyfeiriadau at ffynonellau academaidd a pholisi sydd wedi’u dyfynnu, yn ogystal â chydnabod yr unigolion y mae eu syniadau wedi cyfrannu at y pecyn, gan gynnwys y rhai a fynychodd y seminar a'r gweithdy gwreiddiol, a’r ymgynghoriad ehangach drwy’r e-bost.
Translated title of the contributionDiversity of Religion and Belief: : A guidance and resource pack for primary schools in England and Wales
Original languageMultiple
Place of PublicationCaerdydd
PublisherPrifysgol Caerdydd
Number of pages60
ISBN (Print)9781908469175
Publication statusPublished - Aug 2018

Fingerprint

Dive into the research topics of 'Diversity of Religion and Belief: : A guidance and resource pack for primary schools in England and Wales'. Together they form a unique fingerprint.

Cite this